Agenda - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 13 Mehefin 2018

Amser y cyfarfod: 13.30
 


144(v3)  

------

<AI1>

1       Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

</AI1>

<AI2>

2       Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

</AI2>

<AI3>

3       Cwestiynau Amserol

(20 munud)

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus

 

Mick Antoniw (Pontypridd): Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o'r goblygiadau i gyn-lowyr a'u teuluoedd a chymunedau yng Nghymru sy'n deillio o benderfyniad Llywodraeth yr Alban i gynnal ymchwiliad annibynnol ar effaith plismona yn ystod streic y glowyr?

</AI3>

<AI4>

4       Datganiadau 90 Eiliad

(5 munud)

</AI4>

<AI5>

Cynnig i ethol Aelodau i Gomisiwn y Cynulliad (5 munud)

 

NDM6744 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 7.9, yn penodi Neil Hamilton (Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig)  fel aelod o Gomisiwn y Cynulliad yn lle Caroline Jones (Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig).

</AI5>

<AI6>

5       Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Bywyd ar y strydoedd: atal a mynd i’r afael â chysgu ar y stryd yng Nghymru

(60 munud)

NDM6736 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau 'Bywyd ar y strydoedd: atal a mynd i’r afael â chysgu ar y stryd yng Nghymru', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Ebrill 2018.

Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru ar 6 Mehefin 2018

</AI6>

<AI7>

6       Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Gofalwyr

(60 munud)

NDM6738 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi mai 11 - 17 Mehefin yw wythnos y gofalwyr 2018.

2. Yn cydnabod y cyfraniad hanfodol sy'n cael ei wneud i gymdeithas yng Nghymru gan y rolau y mae'r 370,000 amcangyfrifedig o ofalwyr di-dâl o bob oed yn eu cyflawni.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu polisi Ceidwadwyr Cymru ar grant dyfodol gofalwyr ifanc, a fyddai'n sicrhau bod gofalwyr ifanc yn cael eu cynorthwyo i ymgymryd ag addysg bellach ac uwch amser llawn a chyfleoedd hyfforddi.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi ffigurau yn nodi nifer y gofalwyr y mae eu hanghenion wedi cael eu hasesu ers cyflwyno Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, a faint o'r anghenion hynny a asewyd sydd wedi'u diwallu.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno hawl i gael seibiant ar gyfer gofalwyr a'r rheini y maent yn gofalu amdanynt.

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Julie James (Gorllewin Abertawe)

Dileu’r cyfan ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn cydnabod bod Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn rhoi hawl i ofalwyr gael asesiad o’u hanghenion eu hunain fel gofalwyr ac i anghenion cymwys a aseswyd gael eu diwallu gan awdurdodau lleol.

Yn croesawu blaenoriaethau cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer gofalwyr a ffurfio Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar Ofalwyr er mwyn sicrhau bod gweithredu’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau gofalwyr yng Nghymru.

[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol]

Gwelliant 2 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

Yn credu os caiff y broses o weinyddu lles ei datganoli, y gellir dileu anghysonderau o fewn y system fudd-daliadau sy’n cael gwared ar gymorth i ofalwyr sy'n dymuno ymgymryd ag addysg a hyfforddiant.

Gwelliant 3 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ail-rifo yn unol â hynny:

Yn nodi bod y farchnad lafur ar gyfer pobl ifanc, gyda'r twf mewn contractau dim oriau ac interniaethau di-dâl fel rhan o lwybrau gyrfa, yn creu rhwystrau ar gyfer gofalwyr ifanc sydd am fynd ar drywydd cyflogaeth am dâl a gyrfaoedd ochr yn ochr â’u cyfrifoldebau gofalu.

Gwelliant 4 - Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn cydnabod bod gofalwyr di-dâl o bob oed yn arbed dros £8 biliwn y flwyddyn i'r GIG a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru, ac eto mae mwyafrif llethol o ofalwyr yn teimlo nad yw eu cyfraniad yn cael ei werthfawrogi na'i ddeall.

Gwelliant 5 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i osod cerrig milltir ar gyfer y grŵp cynghori gofalwyr ifanc a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Cynulliad am ei gynnydd yn rheolaidd. 

Gwelliant 6 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau cysondeb ar draws pob rhan o Gymru yn y broses o gyflwyno'r cerdyn i ofalwyr ifanc, a ddylai gynnwys mynediad i drafnidiaeth am bris gostyngol.  

Gwelliant 7 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i egluro faint o’r swm arfaethedig o £3 miliwn ar gyfer gofal seibiant i ofalwyr a gaiff ei ddyrannu i ofalwyr ifanc.

Gwelliant 8 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod pob fferyllfa yn gweithredu'r canllawiau ar ganiatáu i ofalwyr ifanc gasglu meddyginiaeth bresgripsiwn ar ran y bobl y maent yn gofalu amdanynt.

Gwelliant 9 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gofalwyr ifanc yn derbyn hyfforddiant priodol mewn perthynas â gweinyddu meddyginiaeth i’r bobl y maent yn gofalu amdanynt.

</AI7>

<AI8>

7       Dadl Plaid Cymru - Ariannu Ysgolion

(60 munud)

NDM6739 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod yr argyfwng ariannu mewn ysgolion yng Nghymru.

2. Yn nodi ei effaith ar lwythi gwaith athrawon, morâl y staff ac argaeledd adnoddau ysgol sydd, yn ei dro, yn cael effaith andwyol ar addysg plant.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) dwyn ynghyd randdeiliaid allweddol yn y system addysg i ystyried modelau ariannu amgen ar gyfer ysgolion;

b) sicrhau bod prosesau mor dryloyw â phosibl a lleihau biwrocratiaeth yn y broses o ariannu ysgolion; ac

c) sicrhau bod pob ysgol yn cael digon o arian i ddarparu addysg o ansawdd uchel ar gyfer pob disgybl.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Julie James (Gorllewin Abertawe)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn gwneud y canlynol i gefnogi ysgolion a chodi safonau:

a) darparu £36 miliwn ychwanegol i leihau maint dosbarthiadau babanod;

b) cefnogi’r broses o greu rheolwyr busnes ysgolion i leihau llwyth gwaith diangen a chaniatáu i benaethiaid ganolbwyntio ar safonau ysgolion;

c) gweithio gyda’r proffesiwn i leihau biwrocratiaeth yn yr ystafell ddosbarth, yn ogystal â hybu dysgu proffesiynol;

d) cynnig manteisio ar ddatganoli cyflogau ac amodau athrawon fel cyfle i godi statws y proffesiwn addysgu; a

e) buddsoddi mwy na  £90 miliwn yn y Grant Datblygu Disgyblion i gefnogi dysgwyr mwyaf difreintiedig Cymru.

[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol]

Gwelliant 2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn nodi bod y cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar fframwaith cyllidol Llywodraeth Cymru yn darparu tua £1.20 o gyllid i Gymru am bob £1 sy'n cael ei wario ar addysg yn Lloegr. 

Gwelliant 3 -  Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddwyn ynghyd randdeiliaid allweddol yn y system addysg i ystyried:

a) y ffordd y caiff cyllid ei ddyrannu; a

b) y ffyrdd y gellir symleiddio'r cyllidebau a ddyrennir i awdurdodau lleol, consortia ac ysgolion er mwyn lleihau biwrocratiaeth a defnyddio'r gyllideb addysgol gyffredinol yn fwy effeithiol.

</AI8>

<AI9>

8       Cyfnod Pleidleisio

</AI9>

<AI10>

9       Dadl Fer

(30 munud)

NDM6737 Sian Gwenllian (Arfon)

Rhannu swyddi Aelodau'r Cynulliad: A fyddai caniatáu i Aelodau'r Cynulliad rannu swydd yn arwain at greu Cynulliad cydradd o ran rhywedd ac un mwy cynrychioliadol o’r boblogaeth gyfan?

</AI10>

<TRAILER_SECTION>

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 19 Mehefin 2018

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>